mei-emrys:-albwm-newydd-a-‘difaru-dim’-am-fentro-i-fyd-llawrydd
Home / Wales / Mei Emrys: Albwm newydd a ‘difaru dim’ am fentro i fyd llawrydd

Mei Emrys: Albwm newydd a ‘difaru dim’ am fentro i fyd llawrydd

Mei EmrysFfynhonnell y llun, Mei Emrys

GanIwan Arwel

ITV Cymru Fyw

Tua’r adeg yma ddwy flynedd yn ôl roedd y cerddor a’r sylwebydd Mei Emrys yn pendroni beth i’w wneud gyda’i yrfa.

Roedd yn gweithio fel swyddog iaith i un o fyrddau iechyd Cymru, ond roedd ei fryd ar droi i weithio’n llawn amser yn y byd adloniant.

Roedd eisoes wedi dechrau cael gwaith fel sylwebydd ar gemau pêl-droed i Sgorio ond doedd heb ryddhau albwm cerddorol ers 2017.

Dyma gymryd y “gambl” felly a gadael gwaith gyda chyflog cyson a mentro i’r byd llawrydd sydd ar brydiau meddai’n “ansicr”.

Mae newydd ryddhau albwm newydd o’r enw Atlas ac mae’n falch ei fod wedi newid cyfeiriad yn ei 40au, eglura.

‘Gweld cyfle’

“Ro’n i’n gweithio i’r bwrdd iechyd am bron i 10 mlynedd a gweld cyfle ‘nes i mewn gwirionedd.

“O’n i wedi dechrau cael cyfleoedd i sylwebu i Sgorio ac ro’n i’n mwynhau sgwennu erthyglau felly dyma fi’n penderfynu it’s now or never math o beth.”

Yn ogystal â’i waith sylwebu mae Mei hefyd yn hanesydd pêl-droed ac yn ysgrifennu’n helaeth am hanes y gamp i gylchgronau a gwefannau gwahanol.

“Un peth oedd yn rhaid i mi neud oedd cael strwythur. Roedd o’n cymryd amser i arfer efo hynny.

“Un prosiect ‘nes i wir fwynhau yn ddiweddar oedd cael mynd o amgylch ysgolion uwchradd Gwynedd i gyd efo Ed Holden yn gneud gweithdai bîtbocsio a sylwebu ar gemau pêl-droed.

“Be’ oedd yn braf oedd gweld disgyblion yn dod allan o’u cregyn a sylwi ar y rhai swil fel arfer yn mwynhau cael gwneud rhywbeth gwahanol fel sylwebu ar gêm bêl-droed,” meddai.

Er mai pêl-droed yw’r gamp sydd yn mynd â sylw Mei gan fwyaf, mae hefyd wedi cael cyfle i sylwebu ar glipiau o’r NFL.

“Roedd hwnna’n reit annisgwyl ond yn lot o hwyl. Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, ges i gais gan rywun sy’n gweithio i NFL UK i sylwebu ar glip enwog rhwng y Green Bay Packers a’r Detroit Lions.

“Fe aeth y clip yn feiral ac roedd hi’n braf gweld ymateb positif gan bobl ar draws y byd i’r iaith Gymraeg,” meddai.

Mei EmrysFfynhonnell y llun, Mei Emrys

Disgrifiad o’r llun,

Mei yn sylwebu yn Stadiwm Dinas Abertawe

Mae Mei yn parhau i fwynhau cerddoriaeth ond yn ystyried mynd i’r stiwdio i recordio fel rhyddhad o brysurdeb bywyd yn hytrach na gwaith.

“Mae’r canu jest yn ddiddordeb ychwanegol, mae’n braf gallu cymryd diwrnod allan weithiau a jest mynd fewn i stiwdio a recordio a bod yn greadigol.

“‘Nes i ddechrau sgwennu’r albwm newydd yn amser y clo mawr ac wedyn ei gorffen hi’n raddol.

“Fydda i ddim yn gigio cymaint ag o’n i, ond os mae ‘na gais yn dod a mod i ar gael yna ‘na’i dderbyn.

“Dwi’n mwynhau chwarae’r stwff newydd a cha’i byth adael nunlle heb i rywun ofyn am Tri Mis a Diwrnod ers dyddiau Vanta,” meddai.

Roedd hefyd yn sôn am lwyddiant un o’i ganeuon eraill hefyd sydd wedi cael adfywiad ers i Bwncath recordio fersiwn eu hunain o Pen Y Byd.

“Fi sgwennodd Pen Y Byd flynyddoedd nôl ac mae’n braf gweld Bwncath efo’u fersiwn nhw ohoni ac mae pobl wir yn ei mwynhau hi.

“Ond mae’r dyddiau o gario offer fel amps o gwmpas ‘di mynd. Roedd o’n waith hawdd pan o’n i yn fy ugeiniau ond mae dipyn caletach rŵan mod i’n hŷn.

“Os dwi ar gael ac yn cael y cynnig yna dwi’n mwynhau gigio, ond fydda i ddim yn chwilio’n ormodol,” meddai.

‘Ewch amdani’

Neges glir iawn gan Mei oedd nad oedd yn difaru mentro i’r byd llawrydd o gwbl.

“Ro’n i yn fy 40au ac roedd yn rhaid i mi neud penderfyniad i fynd amdani a gwireddu be’ o’n i wir eisiau ‘neud, neu aros mewn swydd oedd yn talu’n gyson.

“Dwi’n ofnadwy o ddiolchgar am bob cynnig dwi’n gael ac mae’n grêt gallu gweithio mewn maes dwi wrth fy modd efo fo, sef chwaraeon.

“Os baswn i’n rhoi cyngor i unrhyw un sy’n meddwl mentro, ewch amdani faswn i’n deud.

“Ydi mae’n gambl i raddau ond os nad yw pethau’n gweithio allan fe allwch chi wastad geisio cael gwaith rhywle arall.

“I mi roedd o werth y naid ac mae’n un o’r penderfyniadau gorau dwi erioed wedi’i ‘neud. I dd’eud gwir dwi’n difaru na fyswn i wedi gneud hyn yn gynt.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Sign Up For Daily Newsletter

Stay updated with our weekly newsletter. Subscribe now to never miss an update!

[mc4wp_form]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *