‘fi’n-un-o’r-ychydig-sydd-wedi-gweld-cymru’n-curo-seland-newydd-ddwywaith!’
Home / Wales / ‘Fi’n un o’r ychydig sydd wedi gweld Cymru’n curo Seland Newydd ddwywaith!’

‘Fi’n un o’r ychydig sydd wedi gweld Cymru’n curo Seland Newydd ddwywaith!’

Roedd buddugoliaeth Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn yn “eiliad na fyddwn wedi meddwl y byddwn yn ei gweld eto”, meddai Huw Llywelyn Davies, oedd hefyd yn dyst i fuddugoliaeth 1953.

“Dwi ddim yn credu bod neb mewn gwirionedd wedi rhagweld beth oedd yn mynd i ddigwydd.

“I fi’n bersonol, dwi’n teimlo’n freintiedig iawn. Fi’n un o’r ychydig, mae’n siŵr gen i, sy’n gallu dweud nawr eu bod nhw wedi gweld Cymru yn curo Seland Newydd ddwywaith.

“Ddydd Sadwrn oedd y tro cyntaf erioed i ni sgorio pum cais yn erbyn y Crysau Duon.

“Doedd neb yn disgwyl y bydden ni’n gallu gwrthsefyll cryfder a nerth corfforol Seland Newydd, ond roedd yr amddiffyn yn yr ail hanner yn gwbl, gwbl arwrol.”

“Ac os ga i ddweud, o’n i yno ym 1953, ac roedd enwau bois fel y capten Bleddyn Williams, Ken Jones, Clem Thomas a Cliff Morgan, ac yn y blaen – mae’r enwau yna wedi bod gyda ni ers 1953.

“Mae criw newydd o Gymru, o dan arweiniad dau Gymro Cymraeg balch dros ben, Dewi Lake a Jac Morgan, wedi cael eu lle nhw hefyd yn y llyfrau hanes.”

Gan fod y canlyniad yn un mor “hanesyddol”, mae S4C wedi cyhoeddi y bydd y gêm yn cael ei hail-ddarlledu ar y sianel nos Sul.

Roedd perfformiad Cymru yn ysgubol, medd prif hyfforddwr y tîm wrth i’r crysau cochion ennill yn erbyn Seland Newydd am y tro cyntaf ers 73 o flynyddoedd.

“O ystyried yr ymdrech mae’r chwaraewyr a’r staff wedi’i wneud dros y 15 mis diwethaf, maen nhw wedi cael yr hyn roedden nhw’n ei haeddu,” meddai Steve Tandy ar ddiwedd y gêm.

“Roedd perfformiad y bechgyn yn anhygoel. Buom yn siarad am ymosod, adeiladu’r perfformiad a bod yn ddewr. Roedd y bechgyn yn ddewr – efallai’n rhy ddewr ar adegau cyn yr egwyl – ond roedd ganddyn nhw’r bwriad clir o fynd amdani.

“A dweud y gwir, pan oedd Seland Newydd yn dod yn ôl i’r gêm tua adeg yr egwyl, byddai wedi bod yn hawdd amau ​​eich hun.

“Ond roedd y ffordd ymosododd y bechgyn – a’r cyfraniad gan y rhai ar y fainc – yn drawiadol.

“Mae’r bechgyn wedi creu hanes. Mae’n rhaid iddyn nhw ddathlu a mwynhau’r eiliad honno. Rydym am barhau i berfformio’n dda ond mae’n rhaid i ni ddathlu’r eiliadau hyn.”

Roedd 55,152 o gefnogwyr yn Stadiwm Principality yn mwynhau buddugoliaeth gyntaf Cymru yn erbyn y crysau duon ers 19 Rhagfyr 1953.

13-8 oedd y sgôr y diwrnod hwnnw – y capten oedd Bleddyn Williams a Sid Judd a Ken Jones a sgoriodd y ddau gais.

Sign Up For Daily Newsletter

Stay updated with our weekly newsletter. Subscribe now to never miss an update!

[mc4wp_form]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *