yr-actor,-y-llenor-a’r-cyfarwyddwr-theatr,-jeremy-turner,-wedi-marw
Home / Wales / Yr actor, y llenor a’r cyfarwyddwr theatr, Jeremy Turner, wedi marw

Yr actor, y llenor a’r cyfarwyddwr theatr, Jeremy Turner, wedi marw

Ganwyd Jeremy Turner yn Aberdâr yn 1958, a bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberdâr cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ar ôl graddio, sefydlodd gwmni theatr arbrofol Cwmni Cyfri Tri gyda dau gyd-fyfyriwr.

Yn 1989, unodd y cwmni â Chwmni Theatr Crwban i greu Arad Goch, gyda Jeremy Turner ymhlith y chwe sylfaenydd, ochr yn ochr â Mari Rhian Owen, Mair Tomos Ifans, Siôr Llyfni, Ellen ap Gwynn a Catrin Hughes.

Tyfodd Arad Goch yn un o brif gwmnïau theatr Cymru, gan greu cynyrchiadau i blant a phobl ifanc ledled y wlad.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad yn 2024, cofiodd Jeremy sut roedd y cwmni wedi dechrau gydag un ffôn, dau gyfrifiadur Amstrad a thri desg, gan gynnal ymarferion mewn adeilad oer yn Aberystwyth.

Roedd gwaith Jeremy Turner hefyd yn mynd ymhell y tu hwnt i Gymru, gyda chynyrchiadau Arad Goch yn teithio i dros 30 o wledydd.

“O dan arweiniad Jeremy yr esblygodd Arad Goch i fod o gwmni sirol i gwmni cenedlaethol ac i un rhyngwladol,” meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, cyn-gadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch.

“Cadwodd yn driw at ei egwyddorion o gyflwyno byd theatr mewn addysg. Caniataodd i blant a phobol ifanc, waeth beth fo’u cefndir, i gael mynediad at y theatr, ac roedd yn egwyddor craidd mewn democratiaeth i Arad Goch ar hyd y blynyddoedd,” ychwanegodd.

Bu’n perfformio, cyfarwyddo, cynnal cyrsiau hyfforddi a siarad mewn cynadleddau rhyngwladol.

Rhwng 2002 a 2008, roedd yn aelod o bwyllgor gweithredol rhyngwladol ASSITEJ, y gymdeithas sy’n hyrwyddo theatr i blant a phobl ifanc.

Roedd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Agor Drysau – Opening Doors, a oedd yn dod â chwmnïau theatr o bedwar ban byd i Gymru i rannu eu gwaith a chydweithio ag artistiaid lleol.

Disgrifiodd Nia Wyn Evans, Cyfarwyddwr Busnes Cwmni Theatr Arad Goch, ef fel cyfarwyddwr “brwdrydig a heintus”.

“Cefais y fraint o gydweithio â Jeremy am dros 20 mlynedd, ac roedd ei frwdfrydedd dros theatr i blant a phobl ifanc yn heintus.

“Nid yn unig y mae ei waith wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt dros y degawdau diwethaf, ond roedd ei weledigaeth gref yn un o’r prif resymau dros lwyddiant y cwmni.

“Bydd y byd theatr yn dlotach yn ei absenoldeb, ond mae’r gwaddol y mae Jeremy wedi’i adael yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Mae ein meddyliau gyda Mari, Tomi, Megan a’r teulu cyfan heddiw.”

Dywedodd Dafydd Llewelyn, Comisiynydd Drama S4C: “Yn un o hoelion wyth y Theatr Gymraeg yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf, roedd Jeremy Turner yn arloesol yn narpariaeth theatrig i blant a phobl ifanc, gyda’i ddawn unigryw i ddarparu arlwy oedd yn wledd i’r llygad ac i’r glust.

“Fel actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd roedd wastad mor gefnogol ac fe agorodd ddrysau i genedlaethau o actorion a thechnegwyr.

“Mae trigolion Pentre Bach a Chymru benbaladr wedi colli ffrind annwyl iawn heddiw a hoffai pawb yn S4C gydymdeimlo’n ddwys â Mari, Tomi a Megan.”

Parhaodd ei gyfraniad i faes theatr ar ôl ymddeol, gan helpu i drefnu archif o 35 mlynedd o waith Arad Goch.

Roedd yr archif yn cynnwys sgriptiau, ffotograffau, posteri, rhaglenni, cofnodion teithiau a llythyrau gan blant, pobl ifanc, athrawon a rhieni.

Cyflwynwyd yr archif i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 2026, er mwyn diogelu hanes y cwmni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Graddiodd gyda doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth yn 2025, gyda’i ymchwil yn edrych ar brosesau creadigol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun diwylliant ac iaith leiafrifol.

Roedd ef ynghyd â’i wraig Mari yn ‘Dywyswyr’ Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2025.

Mae’n gadael ei wraig, y llenor a’r cyfarwyddydd Mari Rhian Owen a dau o blant – Tomi a Megan – a’u teuluoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy NowtsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Sign Up For Daily Newsletter

Stay updated with our weekly newsletter. Subscribe now to never miss an update!

[mc4wp_form]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *