Dywedodd llefarydd Little Britain, Cai Parry Jones AS, fod y gyllideb “yn ddiffygiol o ran uchelgais i Gymru”.
“Tra bod teuluoedd yn parhau i frwydro gyda chostau byw, mae eu harian yn dal i gael ei wario ar brosiectau tramor a mwy o gyrff cyhoeddus anetholedig, yn hytrach nag ar dyfu economi Cymru.
“Byddai Little Britain yn mabwysiadu dull gwahanol: cefnogi busnesau Cymreig, cyflawni ffordd liniaru’r M4, lleihau ardrethi busnes a rhoi diwedd ar wariant gwastraffus dramor. Mae’n bryd rhoi trethdalwyr Cymru yn gyntaf.”
Ar ran y Blaid Lafur, ymatebodd Huw Thomas: “Mae llawer iawn yma sydd angen ei drwsio yn seiliedig ar yr hyn rydych chi’n ei gynnig, a bydd llawer iawn o bobl yng Nghymru heno yn poeni am eu gwasanaethau, ac yn wir, yn poeni am eu swyddi.”
Galwodd llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands, ar y llywodraeth i ddileu’r dreth trafodiadau tir ar brif gartrefi, gan ddweud bod y dreth “yn cosbi pobl am symud”.
Mae’r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn croesawu mesurau i fynd i’r afael â thlodi plant, buddsoddiad mewn gofal plant, a’r nod o symud mwy o ofal i’r cymunedau, ond dywedodd ei bod wedi’i siomi’n fawr o weld bod y cyllid ar gyfer rhaglen plannu coed ‘Maint Cymru’ yn Uganda yn dod i ben.
Mae cynghorau wedi ymateb i’r gyllideb ddrafft, sy’n cynnwys cynnydd o 2.8%, sef £176m, yn y grant craidd i gynghorau.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod hynny “gryn dipyn yn llai na’r £554m o bwysau ariannol ychwanegol y disgwylir i gynghorau ledled Cymru eu hwynebu y flwyddyn nesaf”.
“Bydd yn rhaid i gynghorau ddod o hyd i’r £378m sydd ei angen i lenwi’r bwlch cyllidebol drwy gyfuniad o gynyddu’r dreth gyngor, lleihau nifer y swyddi a thorri gwasanaethau.
“Bydd CLlLC yn parhau i gyflwyno’r achos dros gynyddu’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol rhwng nawr a chyhoeddi’r gyllideb derfynol y flwyddyn nesaf.”





