canslo-drama-ddadleuol-neil-foden-‘ddim-yn-hawdd’-–-prif-weithredwr-s4c
Home / Wales / Canslo drama ddadleuol Neil Foden ‘ddim yn hawdd’ – Prif Weithredwr S4C

Canslo drama ddadleuol Neil Foden ‘ddim yn hawdd’ – Prif Weithredwr S4C

Cafodd y cyn-brifathro Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Ym mis Awst, wrth gyhoeddi’r bwriad i ddarlledu’r ddrama, dywedodd comisiynydd drama a ffilm S4C ar y pryd, Gwenllïan Gravelle bod y ddrama yn “stori bwysig ac ysgytwol am sut y llwyddodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth i fradychu’r statws hwnnw dros nifer o flynyddoedd, tra’n codi cwestiynau anodd am ddiwylliannau lle mae unigolion yn cael eu gweld fel rhai na ellir eu herio”.

Dywedodd hefyd bod y ddrama wedi’i datblygu “gyda gofal a sensitifrwydd mawr” ac yn “ymdrin â’r pwnc yn gyfrifol”.

Fe wnaeth y penderfyniad ddenu ymateb chwyrn gan rai, gyda sawl un yn dweud ei bod yn “warth” bod S4C wedi comisiynu’r gyfres.

Yng nghanol mis Tachwedd, mewn datganiad byr, cyhoeddodd y darlledwr na fyddai’n briodol parhau â’r cynhyrchiad gan ymddiheuro “am y gofid a achoswyd”.

Fe wnaeth S4C wrthod gwneud cyfweliad a dydyn nhw ddim wedi cadarnhau faint sydd wedi’i wario ar y gyfres, gan ddweud bod hynny yn “sensitif yn fasnachol”.

Sign Up For Daily Newsletter

Stay updated with our weekly newsletter. Subscribe now to never miss an update!

[mc4wp_form]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *