Mae’n gamp anghyfarwydd i nifer, er ei bod yn y Gemau Olympaidd. Felly beth yw ras-gerdded?
Yn ôl Fraser, mae’r techneg yn hollbwysig.
“Mae dwy reol: mae angen cadw’r goes flaen yn syth, drwy’r amser – ti methu plygu’r ben-glin o gwbl; mae angen cadw o leiaf un droed ar y llawr o hyd – sy’n golygu fod yna lai o bŵer yn mynd i mewn i’r llawr o’r coesau.
“Mae’n anoddach na rhedeg; maen nhw’n sgiliau gwahanol iawn. Mae llawer o gerddwyr cyflym yn cael shin splints; dyna lle mae’r boen. Mae rhedwyr, fel arfer yn cael poen yn y glutes neu’r traed.”
Sut fath o bellter mae ras-gerddwyr yn eu rasio?
“Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar 5km neu 10km. Rwy’n gwneud 5km mewn tua 25 munud.
“Mae pobl broffesiynol yn gwneud hyd at 50km – dyna yw’r Olympic standard. ‘Naeth fy hyfforddwr i Parkrun yn ddiweddar, yn cerdded yn gyflym, a ‘naeth e fe mewn dan 20 munud.”
Hyfforddwr Fraser yw Tom Bosworth a gynrychiolodd Team GB yn y gamp yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2021. Mae Tom a Fraser yn teithio o Lerpwl i Lannau Dyfrdwy bob wythnos i gyd-gerdded â grŵp sydd â’u hoedrannau’n amrywio o 10 i 70 oed.
Er fod hon yn gamp y gall bobl o bob oed ei gwneud, mae Fraser yn teimlo nad oes yna lawer o gyfleoedd iddo, fel athletwr ifanc.
“Y prif gyfle ar gyfer cerddwyr cyflym ifanc yng Nghymru ydy SIAB – Schools International Athletics Board – sy’n digwydd unwaith y flwyddyn, lle mae athletwyr o ysgolion ledled y DU yn cynrychioli eu gwlad. Dyna pryd dwi wedi cynrychioli Cymru a dwi eisiau ‘neud e eto.
“Rwy’n cystadlu yn yr English Championships yn Sheffield yn Ionawr, yn cynrychioli’r clwb, Bridgend Athletics. Yna gweld beth fydd yn digwydd o fan’na, a gobeithio cael fy newis i’r British Championships yn Brum. Does yna ddim lot o gyfleoedd i gynrychioli Cymru.”
Felly, ag yntau’n gweithio tuag at lwyddiant mewn dau faes hollol wahanol, sut mae’n delio â dwy ddisgyblaeth mor amrywiol?
Yn y brifysgol, mae wedi dod i sylweddoli fod mantais dros wneud y ddau.
“Os dwi’n gwneud ballet, mae hynny’n helpu fy nghydbwysedd wrth gerdded. Ac mae fy mhŵer a’n hyblygrwydd sy’n dod o gerdded cyflym yn dda ar gyfer tap neu jazz.
“Dwi ‘di sylwi, fi ydy’r unig un yn y dosbarth sydd wedi gwneud unrhyw fath o gamp yn lled-broffesiynol, a dwi’n meddwl fod fy stamina i wrth ganu a dawnsio ar yr un pryd yn un o’r gorau. Wrth gynhesu fyny mewn sesiynau cerdded neu redeg, dwi’n ffeindio fy hun yn canu wrtha fi fy hun i geisio ehangu’r ysgyfaint hefyd.”
Ac ynghyd â bod o help i’w hyfforddiant perfformio, mae’r cerdded yn rhoi cyfnod o saib i Fraser yn feddyliol, ar ôl wythnos brysur yn y coleg, meddai.
Felly beth yw ymateb ei gyd-fyfyrwyr i’r ffaith ei fod wedi cynrychioli ei wlad mewn camp nad oes llawer o bobl yn ei gwneud?
“Dwi’n cofio gorfod rhannu ffaith amdana fi fy hun yn un o fy nosbarthiadau yn yr wythnos gyntaf – ‘I racewalk’ – a neb wedi clywed amdano! ‘Sa i’n gwybod am neb arall sy’n gwneud y ddau.
“Rwy’n cael lot yn holi ‘pam ddim rhedeg yn lle?’ neu ‘be’ ‘di’r pwynt?’. Ond dwi’n gofyn, ‘be’ ‘di’r pwynt o bêl-droed neu rygbi?’
“Dwi’n mwynhau’r drafodaeth – mae’n codi ymwybyddiaeth amdano, a gwneud i bobl sylweddoli fod e’n hwyl, a ddim jest yn rhywbeth sy’n edrych yn wirion yn yr Olympics bob pedair blynedd!”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.





