tryweryn:-‘ro’n-i’n-bedair-oed-pan-es-i-lerpwl-i-brotestio-union-70-mlynedd-yn-ol’
Home / Wales / Tryweryn: ‘Ro’n i’n bedair oed pan es i Lerpwl i brotestio union 70 mlynedd yn ôl’

Tryweryn: ‘Ro’n i’n bedair oed pan es i Lerpwl i brotestio union 70 mlynedd yn ôl’

protestio yn LerpwlFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

Trigolion Capel Celyn a’r cwm yn cyrraedd Lerpwl ar 21 Tachwedd 1956

GanAnna George

ITV Cymru Fyw

Yn 1955 penderfynodd aelodau o Gyngor Dinas Lerpwl eu bod am foddi Cwm Tryweryn ger Y Bala er mwyn cyflenwi dŵr i’r ddinas.

Ar 21 Tachwedd 1956, union 70 mlynedd yn ôl roedd Aeron Prysor Jones yn bedair oed pan aeth ar y bws o’i gartref yng Nghapel Celyn i brotestio yn ninas Lerpwl, gyda’i deulu a thrigolion y cwm.

Er mai plentyn bychan iawn oedd Aeron ar y pryd, mae’r diwrnod yn un o’i atgofion cynharaf.

“Oedd mynd i Lerpwl cyn belled ac y basa chi’n mynd dramor erbyn heddiw. Doedd o ddim yn beth oedd yn digwydd,” dywedodd wrth Cymru Fyw, ac yntau bellach yn 74 oed.

“Y ffaith fod yr ardal i gyd yn mynd, dyna oedd yn unigryw; oedd pob copa walltog oedd yn medru cerdded yn mynd. Roedd Frongoch i’r Arennig bron iawn i gyd yna ‘de.”

Aeron Prysor JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun,

Aeron Prysor Jones

‘Dwi’n byw reit ar lan y llyn’

Er gwaethaf protestio ffyrnig yn lleol a thrwy Gymru, dros gyfnod o 10 mlynedd fe wagwyd y cwm, fe adeiladwyd yr argae, fe adawodd y trigolion eu tai ac yna, yn 1965, fe ddaeth y dŵr.

Heddiw mae Aeron yn byw ym Mhen Bryn Mawr, ei fferm ar lannau Cronfa Ddŵr Tryweryn.

Aeth Aeron, ei ddiweddar chwaer Eurgain a’u rhieni i fyw i Pen Bryn Mawr ar ôl cael eu gorfodi o’u cartref yng nghanol pentref Capel Celyn.

“Ges i fy ‘ngeni a’m magu yn Tyn-y-Bont, y drws ‘gosa i’r capel,” eglurodd Aeron.

Y Capel a'r fynwent, Capel Celyn, 10 Medi 1963Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

Y Capel a’r fynwent, Capel Celyn, 10 Medi 1963

“Wedyn pan foddwyd y cwm mi symudwyd ni i Pen Bryn Mawr ar ôl i ni fod mewn carafan am ryw flwyddyn neu ddwy pan oedd y tŷ yma’n cael ei adeiladu.

“Daeth yr enw Pen Bryn Mawr ar ôl cartref fy nhaid o ochr fy mam. Boddwyd cartref fy nhaid hefyd.”

carafanFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

Bu Aeron Prysor Jones yn byw mewn carafan tra roedd Pen Bryn Mawr yn cael ei adeiladu

Wrth edrych allan drwy ffenest ei gartref ym Mhen Bryn Mawr ar gronfa ddŵr lle bu ei gartref a’i gymdeithas, sut mae Aeron yn teimlo heddiw?

“Mae rhywun wedi dod i ddygymod â byw ar lan y llyn erbyn hyn.

“Pan mae’r llyn yn llawn mae’n o lew, ond pan mae’r llyn yn gwagu ‘dach chi’n cysylltu gwahanol leoliadau fel oeddach chi’n ei gofio fo gynta.”

Aeron a'i ŵyr GwernFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

Aeron a’i ŵyr Gwern ger Cronfa Ddŵr Tryweryn heddiw

Atgofion y protestio yn Lerpwl

Fe dreuliodd Aeron holl flynyddoedd ei blentyndod dan gynnwrf yr ymgyrch i achub Cwm Celyn – o fod yn blentyn pedair oed yn y brotest yn Lerpwl, i fod yn ei arddegau, yn 15 oed pan foddwyd y cwm yn 1965.

Ar ddydd Mercher 21 Tachwedd 1956 trefnwyd dau fws i fynd i Lerpwl i brotestio’n erbyn y boddi ac i ddarparu dŵr i ddinas yn Lloegr.

Beth mae Aeron yn ei gofio am y diwrnod?

“Dwi’n cofio mynd efo bws, oedd o’n rwbeth digon diniwed i gymharu â’r protestio sydd heddiw – oedd o’n rwbeth diniwed iawn dweud gwir.

“Dwi’n cofio cerdded hyd y strydoedd a rhyw faneri a chanu ambell i emyn.

Gorymdeithio ar hyd strydoedd LerpwlFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

Gorymdeithio ar hyd strydoedd Lerpwl

“Mae’n brofiad go ryfedd edrych ar luniau o’r diwrnod. ‘Chydig iawn sydd ar ôl erbyn hyn o’r bobl oedd yno.

“Y syndod i mi ydi bod yna gymaint yn dal hyd heddiw yn cael eu rhyfeddu a’u cyfareddu bod ffasiwn beth wedi digwydd o gwbl.

“Fel mae rhywun yn mynd yn hŷn mae rhywun yn sylweddoli gymaint ‘nath genhedlaeth hŷn na fi i ddygymod â be’ oedd yn mynd ymlaen.

“Os faswn i’n ei ddeud o mewn llinell, mi roedd o’r twyll cyfreithlon fwyaf fuodd yn hanes Cymru.”

poblFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

‘Chydig iawn sydd ar ôl erbyn hyn o’r bobl oedd yno’

Tyfu i fyny yn ystod cyfnod o ymgyrchu

Mae Aeron yn cofio 25 Gorffennaf 1963 fel ddoe – ei ddiwrnod olaf yn Ysgol Capel Celyn cyn i’r lle gau er mwyn paratoi at y boddi.

“Es i’r ysgol a wedyn ges i’n gam neu’n gymwys y fraint o drio’r 11 plus flwyddyn yn gynt na ddylwn i, yn lle bo’ fi’n mynd i ysgol gynradd arall.

“Ges i fy hel o Ysgol Capel Celyn i ysgol ramadeg y bechgyn yn Bala, a wedyn symud o fan’no i ysgol y Berwyn mewn blwyddyn.”

Disgrifiad,

Gwyliwch archif o Aeron ar ei ddiwrnod olaf yn yr ysgol

Wrth adlewyrchu ar sut siapiodd cyfnod mor gythryblus yn hanes Cymru ar ei fydolwg fel oedolyn dywed Aeron:

“Mae popeth gwnewch chi ac a welwch chi yn anymwybodol ichi eich hun yn moldio eich cymeriad chi mewn rhyw ffordd.

“Mae ‘na gwpled gan Gwynlliw Jones ac mae hwnnw’n deud mwy na fedra i ddeutha chi:

“‘Nid llyn fydd Celyn ‘ny co, Ond offrwm ddaeth i’n deffro.'”

Trigolion y cwm yn dal y bws i LerpwlFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Casgliad Geoff Charles

Disgrifiad o’r llun,

Trigolion y cwm yn dal y bws i Lerpwl

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Sign Up For Daily Newsletter

Stay updated with our weekly newsletter. Subscribe now to never miss an update!

[mc4wp_form]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *